Cwestiynau a ofynir yn aml

  • Sut i ddechrau fod yn rhiant maeth?

    Mae yna dair ffordd i gychwyn y broses gais, cofrestru eich diddordeb ar y wê gan ddefnyddio botwm “Cofrestru ar lein”, gofyn am alwad yn ôl gan ddefnyddio’r botwm “Cais am alwad ffôn yn nôl” ar lein, neu ffoniwch 0845 200 4040 a fe fydd pecyn gwybodaeth gyda ffurflen gais ar ei ffordd i chi.

    Unwaith derbyniwyd eich cais, fe fydd un o ein Gweithwyr Cymdeithasol Goruwchwylio (GCG) lleol mewn cysylltiad a chi i drafod eich diddordeb. Gyda cytuniad y ddwy ochor, fe fydd apwyntiad yn gael ei wneud i ymweld chi yn eich cartref. Galwyd hyn yn Ymweliad Cychwynnol, yn ystod yr ymweliad, fe fydd cwetiynnau sylfaenol yn cael eu gofyn.

    Wedi’r ymweliad yma, os ydych chi ag yr GCG yn cytuno bod yr gofyniad sylfaenol ganddoch i fod yn riant maeth, fe fydd adroddiad yn cael ei roi i’r Rheolwr/aig Rhanbarthol i wneud penderfyniad ar sail yr adroddiad. Os yw’r penderfyniad yn bositif, yna fe fydd GCG yn cael ei roi i chi i gychwyn y broses asesiad maethu, sydd fel arfer yn cael ei gwbwlhau mewn chwe mis, mwy arfer rhwng tri i bedwar mis.


  • Beth sydd yn digwydd yn ystod y broses asesiad?

    Mae’r brosiad asesu yn cymeryd o gwmpas tair i bedair mis, ag yn cynnwys golwg manwl ar eich bywyd. Mae ein Gweithwyr Cymdeithasol Goruwchwylio gyda sgil ac profiad uchel iawn mewn cynal yr asesiadau ac yn eich cefnogi pob cam o’r ffordd.


    Yn y cychwyniad, fe fyddwn yn disgwyl eich caniatad i redeg gwiriadau arnoch chi ag eich teulu gyda’r asiantaethau canlynol:

    • Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB)
    • Llywodraeth Lleol ag asiantaethau eraill

    Rydym yn talu i chi gael asesiad meddygol llawn gyda eich meddyg teulu.


    Rydym yn gofyn i chi enwebu tri tyst (dim aelod o’r teulu) a allai eich cefnogi i fod yn riant maeth.

    Rydym yn eich gwahodd i fynychu ar gwrs hyfforddiant “Sgiliau i Faethu”(StF), fe gewch yr cyfle i ddysgu mwy am faethu ar broses, cyfarfod a rhieni maeth profiadus ac hefyd cyfarfod a phobol lleol sydd hefyd yn mynd drwy’r broses asesu.


    Fe fydd Gweithwyr Cymdeithasol Goruwchwylio yn trefnu i ymweld chi ag eich teulu yn gyson i roi’r gallu iddynt gasglu’r holl wybodaeth ar gyfer yr adroddiad asesu. Unwaith y mae’r gwaith wedi ei gwbwlhau, mae’r adroddiad yn cael ei gorchwylio gan adran aswiriant ansawdd NFA, cyn cyflwyno’r gwaith i’r panel maethu. Fe fydd gwahoddiad i chi i’r panel, lle bydd argymhelliad yn cael ei wneud.


    Er bod y broses yma yn edrych fel ymrwymiad mawr, mae rhanfwyaf o’r pobol sydd yn mynd drwy’r broses yn dweud bod yr profiad yn deimlad pleserus.



     

  • Beth sydd yn digwydd ar ôl i mi gael fy ngymeradwyo

    Unwaith rydych wedi eich cymeradwyo fel rhiant maeth efo National Fostering Agency. Fe fydd ein tîm ar ddyletswydd yn cychwyn chwilio am blentyn i chi. Lle bydd cyfatebiaeth a potensial gyda phlentyn yn cael ei gysidro, fe fydd manylion syml o eich addasrwydd yn cael ei ddarparu i’r llywodraeth lleol gan ein tîm ar ddyletswydd.

  • Pwy allai faethu?

    Mae rhanfwyaf o bobol yn gallu maethu, ond pan rydym yn cysidro ceisiadau rydym yn edrych yn fanwl ar y canlynol:

    • Eich tystlythyrau personol ag cyfreithiol
    • Eich gallu i weithio mewn partneriaeth ar asiantaeth
    • Eich gallu i weithio fel rhan o dîm proffesiynol
    • Eich bywyd teuluol.
    • Lle yn eich cartref, gan gynnwys trefniadau cysgu
    • Eich iechyd a chefndir
    • Eich sgiliau fel rhiant, agwedd a phersonoliaeth, gan gynnwys unrhyw brofiad o edrych ar ôl plant.
    • Eich gallu i ddarparu amgylchedd gofalus ag magwraeth.

    Pethau sydd lleiaf pwysig i ni yw eich sefyllfa ariannol, oed, statws priodasol ac eich statws cyflogaeth.
     

  • Pam bod plant angen eu maethu?

    • Mae yna nifer o resymau pam bod plant angen eu edrych ar eu hôl gan rieni maeth. Nid yw’r rhesymau yma bob amser yn golygu bod teulu’r plentyn ar fai, neu bod yr plentyn yn ‘anodd’.  Isod ma tri eglurhad o gategoriau bras pam bod plant angen rieni maeth:
    • Mae rhai teuluoedd yn cael adegau o anwadalwch yn eu bywydau: cyflwr meddygol, iselder ysbryd, toriad yn y teulu, anhawsterau dysgu, dibyniad sylwedd ac teuluoedd sydd yn ymdrechu i ymdopi.
    • Mae rhai plant yn dioddef niwed gan aelodau o’r teulu. Mae camdriniaeth yn disgyn i bump grŵp: esgeuluso, corfforol, rhywiol, emosiynol ag eu arddangos i drais yn y cartref. Yn yr amgylchiadau yma, mae’r rhieni wedi methu i edrych ar ôl y plentyn yn ddigonol, ac wedi eu datgelu i ymddygiad amhriodol ag/neu risg neu wedi achosi niwed yn fwriadol i’r plentyn.
    • Mae rhai plant efo anghenion arbennig ag angen rhieni maeth. Gan gynnwys plant sydd efo anabledd difrifol, anghenion meddygol, anhawsterau dysgu neu ymddygiad herio. Efallai bod y rhieni angen gofal ysbeidiol am benwythnos neu nifer o wythnosau yn ystod gwyliau’r ysgol i’r rhieni gael seibiant.

    Gyda phob un o’r amgylchiadau yma, mae NFA yn darparu rhieni maeth gyda’r sgiliau, gwybodaeth a profiad i helpu’r plant a ddaw gyda’r cefndir yma.
     

  • Pa wybodaeth a câf am y plentyn, cyn iddynt aros gyda ni?

    Rydym yn trafod pob lleoliad gyda ein rhieni maeth, ag eu penderfyniad nhw yw derbyn plentyn yn y cartref. Rydym yn rhannu cyn gymaint o wybodaeth ag yn bosib am gefndir y plentyn neu berson ifanc. Er, weithiau mae plant yn dod i ofal maethu heb llawer o wybodaeth, yn enwedig mewn sefyllfa brys. Yn yr amgylchiadau yma, mae’r tîm proffesiynol yn gweithio mor sydyn a phosib i roi’r gwybodaeth at ei gilydd.


    Mae’r asiantaeth efo staff hynod o fedrus i gymharu plentyn ar teulu maethu cywir, ond mae’r penderfyniad i gymeryd plentyn mewn ag edrych ar ei hôl bob amser i lawr i ein rhieni maeth.
     

  • A oes dewis yn y math o blentyn y fyddai yn gofalu amdan?

    Mae’n bwysig i blant sydd angen gofal gael y rhieni maeth sydd yn gallu cyfarfod eu anghenion. Drwy’r broses o’r asesiad, rydym yn gweithio gyda chi i ddarganfod eich sgiliau a cryfderau i eich helpu mewn gwneud penderfyniad o pa blant a phobol ifanc i chi ofalu amdan. Rydym hefyd am eich gyrru ar gyrsiau gyda NFA i ehangu eich sgiliau fel rhiant maeth.


    Cyn eich cymeradwyo gan y panel maethu, fe fydd pawb mewn cytuniad o’r math o blentyn a ddaw i aros ag sefydlu yn eich teulu. Mae hyn yn cynnwys oedran, rhyw, ethnigrwydd a chrefydd plant maethu.
     

  • A fyddai yn ei gweld hi’n anodd pan mae plant yn symud ymlaen?

    Heb os nag oni bai, mae’r plant yr ydych chi’n ofalu am wneud gwrthdrawiad ar eich bywyd, ag mi synnwch eich hunain efo eich gallu i helpu’r plentyn i symud ymlaen. Fe fydd yna gyfnod lle bydd teimlad o fethu plentyn maeth wedi iddynt fynd. Ond, rydych wedi gwneud gwahaniaeth pan oedd o’n bwysig, ag symud ymlaen i wneud yr un gwahaniaeth ar gyfer nifer mwy o blant.

    Drwy’r holl broses yma, fe fydd cefnogaeth eich Gweithwyr Cymdeithasol Goruwchwylio ar gael ac wrth siarad a rhieni maeth eraill.
     

  • Pa mor hir mae plant maeth yn aros?

    Mae gan llywodraethau lleol gyfrifoldeb cyfreithiol i ddychwelyd plant i’w teuluoedd pan mae’n bosib.

    Efallai bod plant yn dod i ofal y llywodraeth lleol oherwydd fod rhieni wedi cytuno bod y plentyn neu plant angen cael eu edrych ar ol gan rieni maeth (er enghraifft, rhieni methu dod i ben oherwydd salwch, problemau iechyd meddwl, camddefnyddio cyffuriau neu diod meddwol) neu efallai bod y llywodraeth lleol wedi cael gorchymyn llys i symud y plant oddi-wrth eu teulu. Ym mhob achos, mae’r amser yn anhysbys.
     

  • Beth yw gofal maeth tymor byr?

    Allai gofal maeth tymor byr fod am ychydig ddyddiau i ddwy flynedd. Pan mae plentyn yn cael Allai gofal maeth tymor byr fod am ychydig ddyddiau i ddwy flynedd. Pan mae plentyn yn cael ei osod mewn gofal maeth, mae yna gyfnod aros lleiafrif yn cael ei roi.

  • Beth yw gofal maeth tymor hir?

    Gofal maeth tymor hir yw pan allai plentyn ddim dychwelyd at eu teulu. Yn yr amgylchiadau yma, mae nifer o blant ifanc yn cael eu mabwysiadu. Ar gyfer plant hyn, mae aros mewn cartref maeth tymor hir yn fwy delfrydol.

    Mae hyn yn golygu bod y plant yn aros gyda teulu maeth, nes eu bod yn oedolyn lle mae modd edrych ar ôl eu hunain. Plant mewn gofal maeth tymor hir, yn fwy na heb yn rhan parhaol i’r teulu maeth.
     

  • Beth yw gofal ysbeidiol?

    Pwrpas gofal ysbeidiol yw i roi cefnogaeth i deulu sydd angen seibiant. Fel arfer mae’r teulu yn dioddef o straen uchel ag angen cyfnod byr heb bwysedd o edrych ar ol eu plentyn neu plant. Mewn rhan fwyaf o achosion, teuluoedd gyda phlentyn anabl, sydd angen seibiant oddi-wrth plentyn gyda anghenion arbennig.

    Mae’r plant yn cael eu cysylltu a rhiant maeth a fydd ar gael yn reolaidd i baratoi gofal byr, cyson, efallai bob yn ail penwythnos neu yn ystod gwyliau’r ysgol.  Mae nifer o rieni maeth sydd yn gweithio yn llawn amser yn darparu’r math yma o ofal.

    Nid yw rhieni maeth yn cadw i un math o faethu – yn aml mae’n cyfuno gwahanol fathau o faethu i ffitio mewn efo eu bywydau eu hunain neu anghenion yr plentyn.
     

  • Pa effaith fydd ar fy nheulu wrth faethu?

    Eich teulu cyfan sydd yn cael eu asesu yn y cartref maethu. Rydym yn cysidro bod y teulu cyfan angen cyflawni i edrych ar ôl plentyn.

    Drwy’r broses asesu, fe fyddwn yn eich helpu i ddeallt newidiadau fydd rhaid ei wneud er mwyn i blentyn maeth deimlo yn saff a croesawus.

    Fe fydd rhaid i chi gysidro sut i newid eich rheolwaith i gyfaddasu person arall (gyda eu hoff bethau ac eu cás bethau), rheoli eich amser teuluol ac yn y blaen. Fe ddaw yr dealltwriaeth i ddangos sut mae’r newidiadau yma yn gweithio ac sut y ddaw eich teulu i gadw trefn ac rheoli nhw yn bositif.

    Mae eich Gweithwyr Cymdeithasol Goruwchwylio ar law ar eich cyfer i ddarparu cyngor a arweiniad, ac fe gewch gyngor gan rhieni maeth profiadus yn eich grwp cefnogol lleol.

    Meddwl am y newidiadau, fe allwn gychwyn rwan. Mae bod yn riant maeth yn benderfyniad gwerthfawr sydd yn gallu newid bywyd ac yn rhagolwg gyffrous.
     

  • Be os na ydi fy mhlentyn ag plentyn maeth yn dod ymlaen yn dda?

    Fe fydd eich teulu chi yn ran or asesiad maethu or cychwyn, ag yn parhau i gael eu gweld ac eu clywed gan eich Gweithwyr Cymdeithasol Goruwchwylio.

    O amser i amser, mae plant yn mynd i anghytuno, bod yn feddianol (o rieni ag eiddo) ac yn cael gwrthdrawiad achlysurol. Mae oedolion yn gallu helpu plant i weithio ar eu gwahaniaethau ac cael hyd i ffordd ymarferol i ddatrys y broblem.
     

  • Allai plentyn maeth ddod ar wyliau gyda ni?

    Mae plant maeth yn cael eu annog i fod yn ran o eich teulu ag eich rheolwaith ac hefyd i gael profiadau newydd. Os ydych yn trefnu gwyliau neu amser i ffwrdd o’r cartref teuluol, rydym yn trafod eich trefniadau gyda gweithwr cymdeithasol y plentyn maeth. Nhw sydd yn gwneud y penderfyniad, ond fel arfer mae nhw yn cael eu cadarnhau.

  • Pa gefnogaeth sydd ar gael i rieni maeth?

    Unwaith rydych wedi eich cymeradwyo fel rhiant maeth, mae cefnogaeth ar gael oddi-wrth ein staff profiadus, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Fe fydd Gweithwyr Cymdeithasol Goruwchwylio ganddoch i eich helpu drwy’r broses maethu, gyda cefnogaeth llawn NFA.

    Hefyd derbyniwch:

    • cefnogaeth gan gweithwr cymdeithasol cymwys a proffesiynol.
    • cyngor a cefnogaeth ar y ffôn, 24 awr.
    • ymweliad unwaith yr mis ac galwad ffôn pob wythnos.
    • cyfleoedd datblygu ac hyfforddiant.
    • cyfle i gyfarfod a rhieni maeth profiadus yn eich grwp cefnogol lleol.
    • cefnogaeth ariannol i edrych ar ôl y plentyn
    • aelodaeth i rhwydwaith maethu.
    • yswiriant amddiffyn cyfreithiol.
    • newyddion a gwybodaeth cyson i rieni maeth.

    Nid fyddwch byth ar ben eich hunain, fe fyddwch yn ran o dîm eang proffesiynol sydd yn gweithio gyda’i gilydd i wella cyfle ag ansawdd bywyd plant maeth.
     

  • Os oes arddeliad troseddol genai, ydi hyn yn golygu na fedrai faethu?

    Mae’n dibynnu ar natur eich trosedd. Efallai eich dymuniad yw i drafod eich trosedd gyda gweithwr cymdeithasol a cael cyngor cyn gwneud cais i faethu.

  • Faint yw lwfans maethu?

    Yn y National Fostering Agency, rydym yn teimlo bod ein rhieni maeth ag ein plant maeth yn haeddu safon da mewn bywyd. Rydym yn gwobrwyo ein rhieni maeth gyda lwfans maethu hael. Mae ein rhieni maeth yn derbyn lwfans lleiafrif o £366.00 yr wythnos am pob plentyn yn y lleoliad. Mae’r lwfans yma yn cael ei dalu pan mae plentyn maeth yn y cartref ac ddim yn cael ei dalu pan mae’r lleoliad yn wag.

  • Beth mae’r lwfans wythnosol yn gynnwys?

    Mae’r lwfans wythnosol yn bwrpasol i anghenion pob plentyn maeth, gan gynnwys bwyd, dillad, teithio, gweithgareddau, cynilo ac yn y blaen. Rydym yn darparu cyfarwyddion ar sut i wario’r arian ar bob plentyn, i sicrhau bod y plentyn yn cael bywyd iach.

    Mae’r lwfans maethu yn adlewyrchu’r gwerth ar ein rhieni maeth ag yr plant. Mae ein rhieni maeth yn gweld bod yr lwfans yn eu galluogi i gyrraedd pob rheidrwydd yr plentyn maeth ac yn eu cefnogi tuag at eu costau byw.

  • A fydd yna dreth ar fy lwfans?

    Yn Ebrill 2003, fe gyflwynwyd yr Llywodraeth esgusodiad treth incwm i rieni maeth. Plant sydd wedi eu lleoli gyda’r National Fostering Agency, mae’r lwfans yma fel arfer yn ddi-dreth. Er, mae rhieni maeth sydd gyda nifer o blant yn y cartref ac yn gweithio, yn debygol o orfod talu rhywfaint o dreth, os yw eu incwm yn uwch na’r lefel sydd wedi ei osod.

    Er mwyn cyfrif treth, mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn trin rhieni maeth fel hunan-gyflogedig. Mae’r HMRC yn darparu cyngor ar gyfer rieni maeth, ac mae copi ar gael i chi wrth ffonio HMRC (a gofyn am gyngor IR 236)
     

  • A fydd rhaid talu yswiriant gwladol?

    Mae’n rhaid i bob rhiant maeth eu cofrestru fel hunan-gyflogedig, ac felly rhaid talu cyfraniad yswiriant gwladol. Mae gwybodaeth ar gael wrth ffonio llinell gymorth i hunan-gyflogedig newydd ar 0845 915 4515.

  • A ydw i yn amod i credyd treth?

    Mae maethu yn cyfri fel hunan-gyflogedig, felly efallai eich bod yn gymwys i credyd treth gwaith (ag hefyd credyd treth plant, os oes ganddoch blant eich hunain). Rydych angen cyngor am credyd treth, sydd yn cymeryd eich sefyllfa personol chi mewn cysidraeth. Cymhwyster ag asesiad ar gyfer credyd treth yn gallu ei wneud wrth gysylltu 0845 300 3900.

  • A ydw i yn gymhwysedig ar gyfer budd-daliadau?

    Mae cymhwyster i budd-daliadau yn cael eu asesu ar sail unigolyn gan adran llywodraeth lleol, ni allai National Fostering Agency roi unrhyw gyngor ar gymhwyster budd-daliadau.

    Yr adran llywodraeth sydd yn gyfrifol am hawliau budd-daliadau yw Adran Gwaith a Phensiwn (DWP). Dylai DWP asesu unrhyw gwestiynau am lwfans maeth neu budd-daliadau. Mae gwybodaeth ar gael wrth ffonio 0800 882200 neu ymweld a www.dwp.gov.uk.

    Mae eich ganolfan waith lleol yn rhoi budd-daliadau i nifer o bobol o fewn oedran gwaith, felly cysylltwch a nhw am fwy o wybodaeth

    Mae budd-daliadau tai a budd-daliadau treth cyngor yn cael ei gyfrif ac eu gweinyddu gan eich Llywodraeth Lleol.

    Neu, cysylltwch a Swyddfa Cyngor Dinesydd (CAB) neu gwasanaeth lles iawndal am gyngor arbenigwr unigol.
     

Contact us